Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E&S(4)-24-13 papur 3

Cyllideb Ddrafft 2014-15: Papur gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

 

I gynorthwyo'r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft 2014-15, mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon ynghylch:

·         Y newidiadau i'r dyraniadau ar gyfer Parciau Cenedlaethol, mynediad a hamdden awyr agored, a rhandiroedd; trafodaethau â Gweinidogion eraill ynglŷn â'r defnydd a wneir o’r dyraniadau hyn i gyflawni ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu; a sut y caiff canlyniadau'r dyraniadau eu monitro

·         Y cronfeydd a rhaglenni Ewropeaidd a gaiff eu defnyddio

·         Y dyraniadau ar gyfer deddfwriaeth Gymreig ac effaith deddfwriaeth y DU

 

Dyraniadau Cyllid

Parciau Cenedlaethol a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol

Dyma linellau'r gyllideb sy'n berthnasol yn ôl Llinell Wariant yn y Gyllideb (BEL):

 

Cyllideb

2013-14 Cyllideb Atodol

£000

2014-15

Cyllideb Ddrafft

£000

2015-16

Cynlluniau Dangosol

£000

 

Parciau Cenedlaethol a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru - Refeniw

 

12,102

 

11,077

 

10,617

 

Parciau Cenedlaethol a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru - Cyfalaf

 

445

445

445

 

Sylwer: mae'r ffigur refeniw a nodir uchod o £12,102,000 yn cynnwys £685,000 o gyllid ar gyfer Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Yn nhabl y gyllideb a gyhoeddwyd, cafodd y ffigur ar gyfer cyllid refeniw'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn 2013-14 ei gynnwys fel Cam Gweithredu ar wahân - Cefnogi a chynnal sector celfyddydau cadarn drwy Gyngor y Celfyddydau ac eraill.  Mae'r gyllideb yn cael ei symud i linell y gyllideb a nodwyd uchod ar gyfer 2014-15 a thu hwnt, ac felly mae'r ffigur a ddangosir uchod ar gyfer 2013-14 wedi cael ei ddiwygio, er cysondeb.

Mae cyfanswm y gyllideb refeniw ar gyfer Parciau Cenedlaethol a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn cael ei leihau o £12,102,000 yn 2013-14 i £11,077,000 yn 2014-15 (gostyngiad o 8.5%), ac wedyn i £10,617,000 yn 2015-16 (gostyngiad pellach o 3.8% ar ffigur 2013-14). Yn nhermau cyffredinol, mae'r gyllideb refeniw ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant (MEG) Diwylliant a Chwaraeon yn gostwng o 3.6% yn 2014-15 a 4.8% yn 2015-16. Bu'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ac mae canran y gostyngiadau yn ffigurau'r gyllideb refeniw ar gyfer Parciau Cenedlaethol a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi bod yn uwch na chanran gyffredinol y gostyngiadau. Mae hyn yn adlewyrchu cyfran y canlyniadau a wireddir gan wahanol elfennau o bortffolio'r Gweinidog. Ar hyn o bryd, mae gan y Parciau Cenedlaethol rai Cronfeydd wrth Gefn a fydd yn helpu i leihau'r effaith a gaiff y toriadau i'r gyllideb.

Daeth yr ymgynghoriad ar ddatganiad polisi newydd ar gyfer tirweddau gwarchodedig yng Nghymru i ben yn ddiweddar. Pwrpas yr ymgynghoriad yw amlinellu fframwaith polisi strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yng Nghymru. Nod y datganiad yw mabwysiadu golwg hirdymor - i amlinellu'r weledigaeth ar gyfer y tirweddau hyn er mwyn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r heriau hirdymor sy'n wynebu pobl a'r amgylchedd. Mae'n darparu cyfle, felly, i fyfyrio ar flaenoriaethau o ran cyflenwi a gweithgareddau yn Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol, ac i deilwra'r rhain ar gyfer yr adnoddau sydd i'w cael.

Yn eu llythyr grant strategol, byddwn yn cytuno gydag Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ar eu blaenoriaethau blynyddol.

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

Caiff yr AHNE eu rheoli gan yr awdurdodau lleol y maent yn perthyn iddynt a chânt eu hariannu drwy'r awdurdodau hynny, grant partneriaeth strategol gan Adnoddau Naturiol Cymru, a chyllid o brosiectau neu fentrau allanol amrywiol. Mae'r cyllid a ddyrennir gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i bob AHNE weinyddu cronfa leol fach i gefnogi prosiectau sy'n datblygu a threialu dulliau o ysgogi datblygiad cynaliadwy mewn cefn gwlad o harddwch naturiol eithriadol ac o amrywiaeth, lle mae'r diwylliant, y bywyd gwyllt, y tirlun, y defnydd o dir a'r gymuned leol yn cael ei gwarchod a'i gwella.

 

Cyllideb

2013-14 Cyllideb Atodol

£000

2014-15

Cyllideb Ddrafft

£000

2015-16

Cynlluniau Dangosol

£000

 

Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol

 

350

 

350

350

 

Mynediad

Ers dros 10 mlynedd, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod a hyrwyddo'r manteision iechyd, cymdeithasol ac economaidd sy'n gysylltiedig â chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden awyr agored, boed hynny'n cerdded, beicio, garddio neu ymddiddori ym myd natur. Mae ein blaenoriaethau wedi'u nodi yn y Rhaglen Lywodraethu, lle eglurir mai'r bwriad yw:

·         parhau'n ymroddedig iwella mynediad y cyhoedd i dir a dŵr a rhoi gwell mynediad i deuluoedd a phlant ifanc;

·         gwella hawliau tramwy i feicwyr a cherddwyr;

·         creu Llwybr Arfordir Cymru erbyn 2012;

·         deddfu ar gyfer faint o dir i’w defnyddio ar gyfer rhandiroedd.

 

Mae’r dyraniadau fel a ganlyn:

Cyllideb

2013-14 Cyllideb Atodol

£000

2014-15

Cyllideb Ddrafft

£000

2015-16

Cynlluniau Dangosol

£000

Mynediad - Refeniw

290

290

 

290

 

Mynediad - Cyfalaf

2,500

2,500

2,500

 

Y prif raglenni cyflenwi a gefnogir yw Rhaglen Gwella Llwybr Arfordir Cymru, y Rhaglen Gwella Hawliau Tramwy, a Splash: Cronfa Her Gweithgareddau Hamdden Dŵr Cymru. Caiff pob un o'r rhaglenni hyn ei gweinyddu ar ran Llywodraeth Cymru gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn noddi Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyd â'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, ac felly, bydd yn trafod sut y mae'r rhaglenni hyn yn cyd-fynd â gweithgareddau pwysig eraill y corff i gefnogi dyheadau'r Rhaglen Lywodraethu yn y maes hwn. Mae'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon hefyd wedi cytuno i gydweithio â Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gefnogi gwaith i farchnata Llwybr Arfordir Cymru, a chaiff union fanylion y dull a ddefnyddir eu cadarnhau yn yr hydref.

Caiff pob rhaglen ei monitro'n ofalus yn erbyn targedau cyflenwi. Agorwyd Llwybr Arfordir Cymru ym mis Mai 2012, ar amser ac o fewn y gyllideb a bennwyd. Fel un o'n hasedau hamdden awyr agored mwyaf blaenllaw, pan gwblhawyd y llwybr, tynnwyd sylw at bwysigrwydd amgylchedd Cymru i ddenu arian twristiaid a chefnogi swyddi yn y diwydiant.  Yn ogystal â'r budd economaidd a ddaw yn ei sgil, mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhoi cyfle i gymunedau lleol ar hyd y llwybr i wneud ymarfer corff, yn unol â nodau strategol Creu Cymru Egnïol.

Mae Ysgol Fusnes Caerdydd yn amcangyfrif bod 2.89 miliwn o bobl wedi defnyddio Llwybr Arfordir Cymru rhwng mis Medi 2011 a mis Awst 2012, a bod hynny wedi arwain at werth £32.2 miliwn o alw yn economi Cymru, sydd gyfystyr â £16.1 miliwn o Werth Ychwanegol Crynswth (GVA).

 

Mae £1.15 miliwn wedi cael ei neilltuo eisoes ar gyfer 2014-15 ar gyfer gwneud gwelliannau i Lwybr Arfordir Cymru. Hon fydd yr ail flwyddyn o gyllid gyda'r bwriad o sicrhau y ceir y gwerth economaidd gorau o'r Llwybr drwy helpu i sicrhau bod profiad yr ymwelydd, o un pen y llwybr i'r llall, yn un o safon. Mae Partneriaeth ar gyfer Twf, y Strategaeth Twristiaeth newydd i Gymru, yn cynnwys Llwybr Arfordir Cymru ar y rhestr o leoedd sy'n cymell pobl i ymweld â Chymru, gan adlewyrchu'r dystiolaeth bod 73% o'r ymwelwyr â Chymru yn datgan mai'r amgylchedd naturiol yw'r prif reswm am eu hymweliad. 

 

Cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru ei gomisiynu i werthuso'r cynnydd a wneir gan awdurdodau lleol i weithredu eu Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy, a'r rôl y mae cyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi'i chwarae i gefnogi'r gwaith hwn. Mae disgwyl i'r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi cyn hir, a bydd ei argymhellion yn sail ar gyfer pennu blaenoriaethau a chynlluniau cadarn ar gyfer 2014/15 a thu hwnt.

 

Mae Splash: y Gronfa Her Gweithgareddau Hamdden Dŵr yn cefnogi mynediad gwell i ddyfroedd mewndirol ac yn ariannu prosiectau i gyflawni'r nod hwn.

 

Cronfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

 

O 2007/8 hyd ddiwedd 2012/13, buddsoddwyd cyfanswm o tua £15.4 miliwn yn Llwybr Arfordir Cymru. Roedd y cyfanswm hwn yn cynnwys £11.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru a  £3.9 miliwn o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd. Cafodd arian yr UE ei ddarparu i gyflymu'r gwaith o gwblhau'r Llwybr ar gyfer 2012.

 

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

 

Mae'r amserlen ar gyfer Biliau'r Cynulliad sy'n effeithio ar y portffolio hwn yn golygu nad oes unrhyw effaith debygol ar unrhyw un o’r dyraniadau yn 2014-15. Yn yr un modd, nid yw unrhyw ran o ddeddfwriaeth y DU a fydd yn gymwys i Gymru yn debygol o effeithio ar unrhyw un o’r dyraniadau yn 2014-15.